Cyn rheitied i mi brydu
Ag i tithau bregethu,
A chyn iawned ym glera
Ag I tithau gardota.
Pand englynion ac odlau
Yw'r hymnau a'r segwensiau?
A chywyddau i Dduw lwyd
Yw sallwyr Dafydd Broffwyd.
"Y Bardd a'r Brawd Llwyd" (The Poet and the Grey Brother), line 53; translation from Dafydd ap Gwilym (trans. Nigel Heseltine) Twenty-Five Poems (Banbury: The Piers Press, 1968) p. 42.
Dafydd ap Gwilym: Frasi in inglese
“There never has been a time when I did not fall in love with one or two in a single day.”
Ni bu amser na charwn…
Yn y dydd ai un ai dwy.
"Merched Llanbadarn" (The Girls of Llanbadarn), line 13; translation from Kenneth Hurlstone Jackson (ed. and trans.) A Celtic Miscellany (Harmondsworth: Penguin, [1951] 1975) p. 209.
Yr wybrwynt helynt hylaw
Agwrdd drwst a gerdda draw,
Gŵr eres wyd garw ei sain,
Drud byd heb droed heb adain.
"Y Gwynt" (The Wind), line 1; translation by Joseph P. Clancy, from Gwyn Jones (ed.) The Oxford Book of Welsh Verse in English (Oxford: OUP, 1977) p. 38.
Lleuad las gron gwmpas graen,
Llawn o hud, llun ehedfaen;
Hadlyd liw, hudol o dlws,
Hudolion a'i hadeilws;
Breuddwyd o'r modd ebrwydda',
Bradwr oer a brawd i'r ia.
Ffalstaf, gwir ddifwynaf gwas,
Fflam fo'r drych mingam meingas!
"Y Drych" (The Mirror), line 25; translation from Carl Lofmark Bards and Heroes (Felinfach: Llanerch, 1989) p. 96.
Oriau hydr yr ehedydd
A dry fry o'i dŷ bob dydd,
Borewr byd, berw aur bill,
Barth â'r wybr, borthor Ebrill.
"Yr Ehedydd" (The Skylark), line 1; translation from Dafydd ap Gwilym (ed. and trans. Rachel Bromwich) A Selection of Poems (Harmondsworth, Penguin, [1982] 1985) p. 74.
Yr wylan deg ar lanw dioer
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fel haul, dyrnfol, heli.
"Yr Wylan" (To the Sea-gull), line 1; translation from Robert Gurney (ed. and trans.) Bardic Heritage (London: Chatto & Windus, 1969) p. 130.
Plygain y darllain deirllith,
Plu yw ei gasul i'n plith.
Pell y clywir uwch tiroedd
Ei lef o lwyn a'i loyw floedd.
Proffwyd rhiw, praff awdur hoed,
Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.
"Y Ceiliog Bronfraith" (The Thrush), line 7; translation from Anthony Conran and J. E. Caerwyn Williams (trans.) The Penguin Book of Welsh Verse (Harmondsworth: Penguin, 1967) p. 145.
Ni thybiais, ddewwrdrais ddirdra,
Na bai deg f'wyneb a da,
Oni theimlais, waith amlwg,
Y drych.
"Y Drych" (The Mirror), line 1; translation from Carl Lofmark Bards and Heroes (Felinfach: Llanerch, 1989) p. 96.
Nythod ddwyn, cyd nithud ddail,
Ni'th dditia neb, ni'th etail,
Na llu rhugl, na llaw rhaglaw,
Na llafn glas na llif na glaw.
"Y Gwynt" (The Wind), line 13; translation by Joseph P. Clancy, from Gwyn Jones (ed.) The Oxford Book of Welsh Verse in English (Oxford: OUP, 1977) p. 39.
Patrick Sims-Williams, in Boris Ford (ed.) Medieval Literature: The European Inheritance (Harmondsworth: Penguin, 1983) p. 302.
Criticism
Harddwas teg a'm anrhegai,
Hylaw ŵr mawr hael yw'r Mai.
Anfones ym iawn fwnai,
Glas defyll glân mwyngyll Mai.
Ffloringod brig ni'm digiai,
Fflŵr-dy-lis gyfoeth mis Mai.
"Mis Mai" (May), line 9; translation by Patrick Sims-Williams, from Boris Ford (ed.) Medieval Literature: The European Inheritance (Harmondsworth: Penguin, 1983) p. 541.
Gwyn Jones, in The Oxford Book of Welsh Verse in English (Oxford: OUP, 1977) p. 289.
Criticism
Hawddamor, glwysgor glasgoed,
Fis Mai haf, canys mau hoed.
Cadarn farchog serchog sâl,
Cadwynwyrdd feistr coed anial;
Cyfaill cariad ac adar,
Cof y serchogion a'u câr;
Cennad nawugain cynnadl,
Caredig urddedig ddadl.
"Mis Mai a Mis Ionawr" (To May and January), line 1; translation from Kenneth Hurlstone Jackson (ed. and trans.) A Celtic Miscellany (Harmondsworth: Penguin, [1951] 1975) p. 75.
Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion.
Ni chyll Duw enaid gŵr mwyn,
Er caru gwraig na morwyn.
Tripheth a gerir drwy'r byd:
Gwraig a hinon ac iechyd.
Merch sydd decaf blodeuyn
Yn y nef ond Duw ei hun.
"Y Bardd a'r Brawd Llwyd" (The Poet and the Grey Brother), line 37; translation from Dafydd ap Gwilym (trans. Nigel Heseltine) Twenty-Five Poems (Banbury: The Piers Press, 1968) p. 42.
Plygu rhag llid yr ydwyf,
Pla ar holl ferched y plwyf!
Am na chefais, drais drawsoed,
Onaddun' yr un erioed
Na morwyn fwyn ofynaig,
Na merch fach, na gwrach, na gwraig.
"Merched Llanbadarn" (The Girls of Llanbadarn), line 1; translation from Kenneth Hurlstone Jackson (ed. and trans.) A Celtic Miscellany (Harmondsworth: Penguin, [1951] 1975) p. 209.
Digrif fu, fun, un ennyd
Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.
Cydlwynach , difyrrach fu,
Coed olochwyd, cydlechu,
Cydfyhwman marian môr,
Cydaros mewn coed oror,
Cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
Cydblethu gweddeiddblu gwŷdd.
Cydadrodd serch â'r ferch fain,
Cydedrych caeau didrain.
"Y Serch Lledrad" (Love Kept Secret), line 23; translation from Dafydd ap Gwilym (ed. and trans. Rachel Bromwich) A Selection of Poems (Harmondsworth, Penguin, [1982] 1985) p. 34.